Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd/Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
18 Tachwedd 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6677
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Dechreuodd yr eitem am 13.31
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Dechreuodd yr eitem am 14.22
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 2 gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Dadl: Cyfnod 4 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 15.17
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7486 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).
Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3 (heb ei wirio)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
16 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig.
4 Cwestiynau Amserol
Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol.
5 Datganiadau 90 eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.28
Gwnaeth Jenny Rathbone ddatganiad am Wythnos Cyflog Cyfartal.
Gwnaeth Huw Irranca-Davies ddatganiad i nodi 100 mlynedd ers sefydlu cymdeithas yr Association of Wrens, ac ymddeoliad WO1 Barbara McGregor.
Gwnaeth Llyr Gruffydd ddatganiad ar brynu Clwb Pêl-droed Wrecsam.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.34 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.
6 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 12.21(iv) - Cartrefu ceiswyr lloches yng ngwersyll milwrol Penalun
Dechreuodd yr eitem am 15.39
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7455 Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu y dylai Llywodraeth y DU fod wedi cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr lleol cyn rhoi llety i geiswyr lloches yng nghanolfan filwrol Penalun, ger Dinbych-y-pysgod.
2. Yn credu y dylid ailystyried y penderfyniad am ei fod yn lle anaddas i geiswyr lloches, gan ei fod wedi'i ynysu oddi wrth rwydweithiau cymorth priodol.
3. Yn condemnio'r protestiadau treisgar a drefnwyd gan grwpiau'r asgell dde eithafol o'r tu allan i Sir Benfro.
4. Yn canmol trigolion a gwirfoddolwyr lleol o bob rhan o Gymru sydd wedi croesawu a chefnogi'r ceiswyr lloches.
Cyd-gyflwynwyr
Cefnogwyr
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
15 |
1 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
7 Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Effaith COVID-19 ar dreftadaeth, amgueddfeydd ac archifau
Dechreuodd yr eitem am 16.21
NDM7477 Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Effaith COVID-19 ar dreftadaeth, amgueddfeydd ac archifau', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Awst 2020.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Medi 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 16.51 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd.
8 Dadl Plaid Cymru - Ardaloedd cymorth arbennig COVID-19
Dechreuodd yr eitem am 17.00
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7480 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi lefelau uchel parhaus cyfraddau heintio COVID-19 yng nghymoedd y de, gydag ardaloedd o fyrddau iechyd Cwm Taf Morgannwg ac Aneurin Bevan yn profi rhai o'r cyfraddau uchaf yn y DU.
2. Yn nodi'r ymchwil a gynhaliwyd yn Lloegr sy'n dangos bod effeithiau'r pandemig wedi cael effaith anghymesur ar gymunedau ôl-ddiwydiannol yng ngogledd Lloegr ac wedi gwaethygu gwahaniaethau rhanbarthol hirsefydlog y wladwriaeth Brydeinig.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddynodi ardaloedd lle mae cyfraddau heintio COVID-19 yn uwch yn ardaloedd cymorth arbennig COVID i fod yn gymwys i gael mesurau cymorth ychwanegol a fyddai'n cynnwys:
a) cymorth ychwanegol i'r rhai sy'n agored i niwed o safbwynt clinigol ac na allant weithio gartref;
b) cynyddu'r grant hunanynysu i £800;
c) adnoddau ychwanegol ar gyfer timau profi ac olrhain ac awdurdodau lleol;
d) llety gwirfoddol ychwanegol i'r rhai nad ydynt yn gallu hunanynysu'n ddiogel gartref;
e) mwy o brofion i ganfod achosion asymptomatig;
f) blaenoriaeth ar gyfer rhaglenni profi torfol a chyflwyno unrhyw frechlyn yn gynnar;
g) cryfhau ymgyrchoedd cyfathrebu cyhoeddus lleol i'w gwneud yn haws i gadw at ganllawiau iechyd y cyhoedd:
h) adnoddau ychwanegol ar gyfer wardeiniaid COVID lleol ar gyfer awdurdodau lleol a hyrwyddwyr cymunedol COVID i ailadrodd negeseuon atal COVID cenedlaethol;
i) mesurau amddiffynnol ychwanegol mewn ysgolion ac ar gludiant i'r ysgol, gan gynnwys gwisgo masgiau mewn ystafelloedd dosbarth;
j) adnoddau ychwanegol ar gyfer gofal plant diogel a fforddiadwy;
k) mesurau ychwanegol i liniaru'r rhaniad digidol a tharfu ar addysg;
l) mwy o gefnogaeth i fusnesau a phobl hunangyflogedig sy'n dewis rhoi'r gorau i fasnachu'n wirfoddol dros dro;
m) gorchmynion gwasgaru yng nghanol trefi ar ôl cau tafarndai.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
4 |
39 |
55 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod ardaloedd sy'n parhau i fod â nifer fawr o achosion o COVID-19 wedi elwa o'r cymorth ariannol o £5 biliwn a roddwyd i Gymru yn ystod pandemig COVID-19 gan Lywodraeth y DU.
2. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ymgymryd â strategaeth COVID-19 sy'n wahanol i'r strategaeth gan Lywodraeth y DU yn gyson ac nad yw hyn wedi helpu'r cyfraddau heintio uchel parhaus sy'n gyffredin yng nghymoedd y de.
3. Yn credu mai'r ymateb gorau i gynorthwyo'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan COVID-19 yng Nghymru yw drwy gael ymateb unedig yn y DU, dan arweiniad Llywodraeth y DU.
Cyd-gyflwynwr
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
6 |
10 |
39 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru’n cadw llygad yn barhaus ar lefelau cyfraddau heintio COVID-19 ar draws Cymru, o ystyried bod y cyfraddau heintio yn uchel mewn rhai ardaloedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
23 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'r lefelau hanesyddol o gyllid gan Lywodraeth Ei Mawrhydi i holl ranbarthau a chenhedloedd y DU, gan gynnwys yr ardaloedd hynny sydd â chyfraddau heintio uchel, i fynd i'r afael â pandemig COVID-19, yn enwedig y £5 biliwn o arian ychwanegol a roddwyd i Lywodraeth Cymru.
Yn credu y dylid rhoi mesurau cymorth ychwanegol ar waith yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn sgil adroddiadau yn y cyfryngau bod o leiaf 9,000 o gleifion wedi bod yn aros am fwy na blwyddyn am driniaeth gan y GIG ym mis Medi yn yr ardal honno, gydag amseroedd aros i fod i gynyddu ymhellach yn dilyn effaith COVID-19.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r canlynol mewn perthynas ag ardaloedd lle mae cyfraddau heintio COVID-19 yn uwch, yn ogystal ag ardaloedd eraill ledled Cymru:
a) targedu ardaloedd lle mae cyfraddau heintio COVID-19 yn uwch yng Nghymru, gan gynnwys cyfyngiadau call wedi'u targedu lle y bo'n briodol;
b) cynyddu'r nifer o ysbytai sy'n rhydd o COVID a chyfleusterau ysbyty dros dro a gaiff eu cyflwyno er mwyn lleddfu'r pwysau ar y system gofal iechyd a mynd i'r afael â rhestrau aros;
c) targedu profion mewn ardaloedd lle ceir problemau a chyflwyno sgrinio asymptomatig ddwywaith yr wythnos ar gyfer yr holl staff sy'n wynebu cleifion yn y GIG yng Nghymru a'r sector gofal cymdeithasol;
d) comisiynu ymchwiliad brys i farwolaethau a heintiau sy'n gysylltiedig ag achosion a gaiff eu trosglwyddo mewn ysbytai;
e) cyflwyno pecyn cymorth tosturiol i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed gan y coronafeirws yng Nghymru;
f) ôl-ddyddio taliadau hunanynysu yng Nghymru hyd at 28 Medi er mwyn sicrhau chwarae teg gyda rhannau eraill o'r DU;
g) dyrannu gweddill yr arian nas gwariwyd a ddarparwyd gan Lywodraeth Ei Mawrhydi i fynd i'r afael â'r coronafeirws.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
2 |
40 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi ystod eang o fesurau cymorth cenedlaethol ar waith i ymateb i’r pandemig COVID-19, gyda’r nod o gynorthwyo’r ardaloedd hynny lle mae cyfraddau heintio COVID-19 yn uchel yn ogystal ag ardaloedd eraill yng Nghymru, gan gynnwys:
a) cynyddu’r gallu i brofi ac olrhain cysylltiadau a chyflwyno dewisiadau profi newydd;
b) cyllid a chymorth ychwanegol i awdurdodau lleol;
c) ymgyrchoedd helaeth i roi gwybodaeth i’r cyhoedd ar draws sianelau’r cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol;
d) cymorth i ailagor ysgolion a sefydliadau addysg eraill yn ddiogel;
e) cyllid ar gyfer adferiad economaidd ac ar gyfer busnesau yng Nghymru;
f) taliad hunanynysu o £500.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
26 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7480 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru’n cadw llygad yn barhaus ar lefelau cyfraddau heintio COVID-19 ar draws Cymru, o ystyried bod y cyfraddau heintio yn uchel mewn rhai ardaloedd.
2. Yn nodi'r ymchwil a gynhaliwyd yn Lloegr sy'n dangos bod effeithiau'r pandemig wedi cael effaith anghymesur ar gymunedau ôl-ddiwydiannol yng ngogledd Lloegr ac wedi gwaethygu gwahaniaethau rhanbarthol hirsefydlog y wladwriaeth Brydeinig.
3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi ystod eang o fesurau cymorth cenedlaethol ar waith i ymateb i’r pandemig COVID-19, gyda’r nod o gynorthwyo’r ardaloedd hynny lle mae cyfraddau heintio COVID-19 yn uchel yn ogystal ag ardaloedd eraill yng Nghymru, gan gynnwys:
a) cynyddu’r gallu i brofi ac olrhain cysylltiadau a chyflwyno dewisiadau profi newydd;
b) cyllid a chymorth ychwanegol i awdurdodau lleol;
c) ymgyrchoedd helaeth i roi gwybodaeth i’r cyhoedd ar draws sianelau’r cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol;
d) cymorth i ailagor ysgolion a sefydliadau addysg eraill yn ddiogel;
e) cyllid ar gyfer adferiad economaidd ac ar gyfer busnesau yng Nghymru;
f) taliad hunanynysu o £500.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
2 |
24 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
9 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.51 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.
Dechreuodd yr eitem am 17.58
10 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.04
NDM7479 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Manteision llesiant y celfyddydau mewn pandemig.
Edrych ar sut y gall y celfyddydau gael effaith gadarnhaol iawn ar lesiant corfforol a meddyliol unigolyn.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.24
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 24 Tachwedd 2020